Shipwrecked Heritage: Values, Threats and Legal Tensions by Dr Hayley Roberts

English below
Treftadaeth Llongddrylliadau: Gwerthoedd, Bygythiadau a Thensiynau Cyfreithiol gan Dr Hayley Roberts
Gwely’r môr yw amgueddfa fwyaf y byd. Mae lefelau llanw sy’n codi, llifogydd a thrychinebau naturiol wedi dinistrio a boddi dinasoedd a gwareiddiadau ar hyd y milenia, gan adael eu gweddillion ar wely’r môr. At hynny, mae’r môr ers amser wedi bod yn ffordd o gysylltu pobl â’i gilydd ac o hwyluso masnachu a mudo, a diolch i gyfuniad o dywydd garw, dylunio gwael a chamgymeriadau mordwyo, mae llongau drylliedig hefyd wedi dod yn rhan bwysig o’n treftadaeth ddiwylliannol dan y dŵr. Mae llongddrylliadau’n addysgiadol mewn ffordd unigryw oherwydd eu bod yn gapsiwlau amser, yn ddarlun sydyn o eiliad mewn amser cyn iddynt suddo. Yn gyffredinol, mae dŵr oer y môr yn tueddu i warchod llongddrylliadau, sy’n ein galluogi i ddarganfod gwybodaeth am fasnachu a mordeithio, cynnyrch, mudo, cydberthnasau cymdeithasol ac ymddygiad yr hen fyd - gwybodaeth na fyddai’n hysbys i ni fel arall, efallai.
Dim ond yn ystod yr ugeinfed ganrif y daeth llongddrylliadau’n fater rheoleiddiol, pan wnaeth datblygiadau technolegol hi’n bosibl i waith archwilio ddigwydd dan y dŵr, gan alluogi pobl i gyrraedd llongddrylliadau. Erbyn hyn mae siambrau tanddwr yn gallu teithio i ran ddyfnaf y môr y gwyddys amdani; mae modd cyrraedd rhai llongddrylliadau â snorcel; ac mae rhai hyd yn oed yn gorwedd mewn dyfroedd rhynglanwol. Mae pob llongddrylliad yn y byd, fwy neu lai, o fewn ein cyrraedd yn awr. Mae hynny’n golygu bod llywodraethu a gwarchod llongddrylliadau hanesyddol wedi dod yn her reoleiddiol o bwys yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r her honno wedi dwysáu’n benodol oherwydd bod gan longddrylliadau werthoedd amrywiol sy’n ymestyn y tu hwnt i’w statws fel gwrthrychau hanesyddol ac archaeolegol, a bod y gwerthoedd hynny’n gallu creu cymhlethdodau mawr os ydynt yn gwrthdaro â’i gilydd.
Mae'r anerchiad hwn yn archwilio amryw werthoedd llongddrylliadau ac yn esbonio faint o’r gwerthoedd hynny allai fod dan fygythiad. Bydd hefyd yn bwrw cipolwg sydyn ar rai o’r tensiynau cyfreithiol a’r heriau sy’n codi pan fydd y gwerthoedd a bennir gennym i longddrylliadau hanesyddol yn gwrthdaro â’i gilydd.
Mae Dr Hayley Roberts yn Uwch-ddarlithydd mewn Cyfraith Ryngwladol Gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor ac yn Is-gadeirydd y Bwrdd Comisiynwyr yng Nghomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae ei diddordebau o ran ymchwil yn ymwneud yn bennaf â chyfraith ryngwladol y môr, yn enwedig treftadaeth ddiwylliannol danddwr a’r newid yn yr hinsawdd.
****************************************
Shipwrecked Heritage: Values, Threats and Legal Tensions by Dr Hayley Roberts
The seabed is the world’s largest museum. Rising tides, floods and natural disasters have devastated and submerged cities and civilisations over the millennia, leaving their traces on the ocean floor. The sea has also long been a way to connect humans, facilitating trade, commerce and migration, and thanks to a combination of bad weather, poor design and navigational errors, wrecked ships have also become a significant part of our underwater cultural heritage. Shipwrecks are uniquely informative in that they are time-capsules, a snapshot of the moment in time of their sinking. The cold waters of the ocean generally tend to preserve shipwrecks, enabling us to discover knowledge of ancient trading and seafaring, produce, migration, social relationships, and behaviours that may otherwise have remained unknown.
Shipwrecks did not become a regulatory issue until the twentieth century when technological developments enabled underwater exploration, opening shipwrecks to human interference. Submersibles can now enable travel to the deepest known part of the ocean and some shipwrecks may be accessible by snorkel, or even lie in intertidal waters. Virtually every shipwreck in the world is now within our reach. This means that the governance and protection of historic shipwrecks has become a significant regulatory challenge in recent years. This is particularly intensified by the fact that shipwrecks have diverse values that go beyond their status as historical and archaeological objects, and these values may create significant complexities and complications where they are in conflict.
This talk explores the various values of shipwrecks and explain how many of these values may be threatened, also briefly looking at some of the legal tensions and challenges created when the values that we assign to historic wrecks are in conflict with each other.
Dr. Hayley Roberts is Senior Lecturer in Public International Law at Bangor University and is Vice Chair of the Board of Commissioners for the Royal Commission on Ancient and Historical Monuments in Wales. Her research interests mainly relate to the international law of the sea, particularly underwater cultural heritage and climate change.

Пікірлер

    Келесі