The Maritime Archaeology of Wales: From Shipwrecks to Submerged Landscapes by Dr Julian Whitewright

Archaeoleg Arforol Cymru: O longau drylliedig i dirweddau sydd dan y dŵr
gan Dr Julian Whitewright
Darlith ar-lein ar gyfer yr Ŵyl Archaeoleg gan Dr Julian Whitewright, Uwch Ymchwilydd (Arforol) yn y Comisiwn Brenhinol: “Archaeoleg Arforol Cymru: O longau drylliedig i dirweddau sydd dan y dŵr”. Mae gan Gymru gasgliad cyfoethog o safleoedd archaeolegol arforol sy’n amrywio o dirweddau cynhanesyddol sydd bellach dan y dŵr i longau drylliedig o’r 20fed ganrif - a phopeth rhyngddynt, bron iawn. Bydd yr anerchiad hwn yn cyflwyno gwaith y Comisiwn Brenhinol wrth iddo arolygu a chofnodi archaeoleg arforol Cymru, a bydd yn esbonio’r mathau o safleoedd yr ydym yn gweithio arnynt a’r dulliau yr ydym yn eu defnyddio.
************************************************
The Maritime Archaeology of Wales: From Shipwrecks to Submerged Landscapes by Dr Julian Whitewright
Our Festival of Archaeology online lecture by Dr Julian Whitewright, Senior Investigator (Maritime) at the Royal Commission: “The Maritime Archaeology of Wales: From Shipwrecks to Submerged Landscapes”. Wales has a rich collection of maritime archaeological sites, ranging from prehistoric landscapes, now submerged, through to 20th- century shipwrecks - and almost everything in between. This talk will introduce the work of the Royal Commission surveying and recording the maritime archaeology of Wales, explaining both the types of sites that we work on and the methods we use.

Пікірлер

    Келесі